SL(6)150 - Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) 1989 (“y Prif Reoliadau”).

Mae'r Prif Reoliadau yn caniatáu i Fyrddau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau’r GIG ac Ymddiriedolaethau Sefydledig y GIG (fel y bo’n berthnasol) yng Nghymru godi ac adennill ffioedd am wasanaethau perthnasol a ddarperir i ymwelwyr tramor nad ydynt yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig (DU), oni bai bod yr ymwelydd tramor, neu'r gwasanaeth y mae’n ei gael, yn destun esemptiad rhag ffioedd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud er mwyn:

·         sicrhau bod y Prif Reoliadau yn adlewyrchu’r Confensiwn rhwng y DU a’r Swistir ar Gyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol;

·         cynnwys Rheoliad 4F newydd, sy’n darparu esemptiad rhag ffioedd ar gyfer ymwelydd tramor sydd wedi talu’r Ffi Iechyd Mewnfudo o dan Ddeddf Mewnfudo 2014, neu pan fo person yn esempt rhag talu’r ffi honno neu, mewn amgylchiadau penodol, pan fo’r Ysgrifennydd Gwladol wedi arfer disgresiwn i leihau, ad-dalu neu hepgor y Ffi Iechyd Mewnfudo;

·         cynnwys Rheoliad 4G newydd sy’n darparu esemptiad rhag ffioedd i’r ymwelwyr tramor hynny a wnaeth gais am ganiatâd i ddod i mewn neu i aros yn y Deyrnas Unedig cyn i’r gofyniad i dalu’r Ffi Iechyd Mewnfudo ddod i rym ac na fyddant, o ganlyniad, wedi cael cyfle i dalu'r ffi honno hyd nes eu bod yn gwneud y cais nesaf i ddod i mewn i’r Deyrnas Unedig neu i aros ynddi;

·         cynnwys esemptiad rhag ffioedd ar gyfer plentyn a enir yn y Deyrnas Unedig i riant sy’n esempt rhag talu ffioedd o dan Reoliad 4F neu Reoliad 4G, tra bo’r plentyn yn iau na thri mis oed ar yr amod nad yw wedi ymadael â’r Deyrnas Unedig ers iddo gael ei eni;

·         diweddaru Atodlen 1 i newid y cyfeiriad at y coronafeirws a ddefnyddiwyd ar adeg diwygiad Chwefror 2020 i’r enw presennol a gadarnhawyd am y feirws; a

·         chynnwys diwygiadau technegol yn dilyn diweddariadau blaenorol i'r Prif Reoliadau.

 

 

Gweithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu’r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddiwrnodau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) ar doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y cawsant eu gosod gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn:-

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae’r Rheoliadau hyn yn cynnwys cywiriadau a amlygwyd yn flaenorol gan y Pwyllgor mewn perthynas â Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) 2020 a 2021.

Mae manylion y newidiadau technegol, fel y’u nodir isod, wedi’u cynnwys yn adroddiad yr y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad SL(5)707 – Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2020 ac SL(5)780 a Rheoliadau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2021.

Y newidiadau:

•           diwygio Rheoliad 2(2)(h) i fewnosod diffiniad newydd ar gyfer “gwasanaethau perthnasol”, sy’n cyfeirio at ddarpariaethau yn Neddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Mae'r diwygiad yn dileu cyfeiriad at 'gwasanaethau offthalmig sylfaenol' ac yn rhoi yn lle hynny 'gwasanaethau offthalmig cyffredinol', i gyd-fynd â'r diffiniad a ddefnyddir yn Neddf 2006.

           dileu’r cyfeiriad at Sweden o Atodlen 2, gan fod Sweden yn dod o dan ddarpariaethau Protocol Cyd-drefnu Nawdd Cymdeithasol Cytundeb Masnach a Chydweithredu’r DU ac felly nid oes angen ei rhestru ar wahân yn Atodlen 2.

•           dileu’r cyfeiriad at Liechtenstein o Atodlen 2 hyd nes bod cytundebau gofal iechyd cilyddol newydd â’r wlad hon yn cael eu rhoi ar waith gan Lywodraeth y DU.

 

 

 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

8 Chwefror 2022